Gwyn PierceOWENDymuna Mrs. Joyce Owen, Dafydd, John, Siân a'r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar o golli priod, tad, taid a ffrind arbennig Gwyn Pierce Owen, Craig y Don, Benllech. Diolch arbennig i Miriam a Mair am eu caredigrwydd a'u cefnogaeth drwy gydol gwaeledd Gwyn, diolch i Care Link, Llangefni, Dr. Seal a Mr. John Grant uned Haematoleg, Ysbyty Gwynedd, Bangor, diolch i'r Parchedigion Geraint Roberts a Griff T. Jones, yr organyddes Mrs. Marian Pritchard, aelodau'r Capel am eu cymorth ddydd yr angladd. Diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Gwyn tuag at "The Stroke Association" A diolch i R. Hughes a'i fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, LLangefni am eu trefniadau.
Notify me with new activity on this notice