EricWILLIAMS,Dymuna Eirian, Helen, Mari, Gwen, Bethan a'u teuluoedd ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad â hwy yn eu profedigaeth o golli priod, tad, taid a hen daid annwyl iawn, sef y diweddar Eric Williams, Pant y Celyn, Rhostryfan. Diolch am yr holl ymweliadau, cardiau a galwadau ffôn a dderbyniwyd, fe'u gwerthfawrogir yn fawr iawn. Diolch arbennig i'r ymgymerwyr, Iolo Owen a'i gydweithwyr, am y gefnogaeth a'r trefniadau trylwyr ac urddasol, i'r Parchedig Gwenda Richards am ei hymweliadau a'r gwasanaeth teimladwy ar ddydd yr angladd, ac i Angharad Wyn Jones, yr organyddes. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £1500, a dderbyniwyd er cof am Eric, ar gyfer Urdd Cyfeillion Ysbyty Eryri.
Notify me with new activity on this notice