RobertEVANSEVANS - ROBERT (Bob), 2 Mehefin 2018. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd o Dolydd, 7 Stad Brynteg, Llanfaelog, gynt o Rhosbadrig yn 94 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar Annie, tad tyner Harri a Richard, tad yng nghyfraith Margaret a Marian, taid hoff Robat, Mared, Sioned, Tudur, Elin, hen daid hoffus, a brawd y diweddar Elsie, Olwen a Owie ei efaill. Gwelir ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll. Angladd preifat yn ol ei ddymuniad. Dymuna Harri, Richard a'r teulu ddiolch yn ddiffuant i staff Cartref Rhos, Malltraeth am eu gofal tyner am eu tad dros y bedair blynedd diwethaf. Ymholiadau i Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffon (01407) 740 940.
Notify me with new activity on this notice