Emrys RowlandJONESJONES - EMRYS ROWLAND, 16 Ebrill 2019. Yn dawel yn ei gartref, Llwyn y Gân, Ala Las, Caernarfon, yn 90 mlwydd oed. Gŵr ffyddlon Derwena am 70 mlynedd, tad annwyl Geraint a'i wraig, Ann, ac Alwena a'i gŵr, Gwyn; taid cariadus Llŷr a Lowri, Gethin, Eleri a Rob, Rhydian a Betsan, Heledd a Huw, ac Emyr a Ffion; a hen daid balch Osian, Math, Joseff a Dyfan. Cynhelir gwasanaeth o ddiolchgarwch i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Seilo, Caernarfon, dydd Gwener, 26 Ebrill am 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru ac Eglwys Seilo, Caernarfon. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Notify me with new activity on this notice