EifionWATKINSParry Yn dawel, ddydd Mercher, Mai 5 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Eifion, Heol Pont-arddulais, Tycroes, Rhyd-aman; priod ffyddlon Eilir, tad tyner Huw ac Eirlys, tad-yng-nghyfraith parchus Menna a Bleddyn, a thad-cu annwyl Steffan a Sioned. Angladd cyhoeddus yng Nghapel Bethesda Tycroes - lle'r oedd yn ddiacon ffyddlon - ddydd Mercher, Mai 12 am 3.y.p. Cleddir ei weddillion ym mynwent y Capel. Blodau'r teulu'n unig, rhoddion os dymunir, er cof, tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Glangwili, trwy law Huw Watkins, Hafod-y-Wig, 50, Heol Fforest, Pontarddulais, Abertawe. Manylion pellach oddi wrth Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, Betws, Rhydaman. Ffôn 01269 593637.
Notify me with new activity on this notice