Maggie,ROBERTSROBERTS - MAGGIE,, Rhagfyr 1af, 2019. Yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd o'r Broadway, Abergele, gynt o Blaen Nant, Llannefydd yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl Tommy, mam ofalus a chariadus i Gwyneth a John, Emyr a Gill, Alwyn a Diane, Llinos ac Eifion, Brenda, Clwyd a Janet, nain balch i un deg chwech a hen nain i ddau ddeg tri, chwaer hoff i Edward a Mary a'r diweddar Gwilym a Gwen a chwaer-yng-nghyfraith i Glyn a'r ddiweddar Joan. Gwelir ei cholli'n fawr gan ei theulu a'i ffrindiau. Cynhelir gwasanaeth yn Amlosgfa Llanelwy fore Iau, Rhagfyr 12fed am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Maggie tuag at Ward 4 ac Uned Strôc Ysbyty Glan Clwyd trwy law R.W.Roberts a'i Fab, Plas Tirion, Rhodfa Kinmel, Abergele LL22 7LW. Ffôn 01745 827777.
Notify me with new activity on this notice