Hywel WynBOWEN (Jac y Do)Jac y Do Yn dawel, ar nos Fawrth, 17 Rhagfyr 2019 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn 71 oed; Hywel Wyn, Ffordd Talbot, Rhydaman, gynt o Bontyberem, gŵr annwyl Janet, tad a thad yng nghyfraith cariadus a chefnogol Cerys ac Owain, Sionedwyn a Dave, tad-cu balch ac arbennig Deio a Begw, Curig ac Aeddan, mab ffyddlon y diweddar Doug a Blodwen a brawd addfwyn y diweddar Sian Eleri. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli, dydd Sadwrn, 28 Rhagfyr 2019 am 11 o'r gloch gyda lluniaeth i ddilyn yn y Mountain Gate, Tycroes. Rhoddion er cof i 'Golau Cancer Foundation' drwy law O.G.Harries Cyf, Trefnwyr Angladdau, Bethel, Heol yr Orsaf, Pontyberem, Llanelli, SA15 5LF. Ffôn: 01269 870350.
Notify me with new activity on this notice