William ElwynEDWARDS (Elwyn Pwros)Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu yn yr Ysbyty ar Ragfyr 26ain 2021 yn 86 mlwydd oed o 132 Pencraig, Llangefni. Gŵr annwyl y ddiweddar Olwen Edwards, tad a thad yng nghyfraith arbennig i Gwilym a Deborah, Carol ac Owen, Alan a Mandy, taid balch a chariadus i Kelly, Elen, Sioned, Gemma, Dei a Cate, hen daid hoffus i Erin, Seren, Deio a Cadi. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Gwener Ionawr 14eg 2022, yn dilyn canllawiau covid-19, gwasanaeth yn Eglwys Santes Fair, Llangwyfan, Ty Croes am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys ym mynwent yr Eglwys. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Elwyn yn ddiolchgar tuag at Eglwys Santes Fair drwy law yr ymgymerwyr Melvin Rowlands Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111.
Notify me with new activity on this notice