EmrysEVANSEVANS(Emrys Yn sydyn ar ddydd Sul, Chwefror 3, 2013 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, John Emrys, Llanerch, Maesycrigiau, Pencader (gynt o Undergrove); priod ffyddlon y diweddar Nancy, brawd annwyl Eirwen ac ewythr hoffus Ann a Maldwyn, Angela a Richie, Andrew a Sarah a brawd-yng-nghyfraith parchus Kevin. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Luc, Llanllwni, dydd Sadwrn, Chwefror 9, 2013 am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion, os dymunir, tuag at Eglwys Sant Luc trwy law Gwilym C Price ei Fab a'i Ferched, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DY. (01570) 422673.
Notify me with new activity on this notice