BerylJONESJONES - BERYL, 1 Tachwedd 2021. Yn dawel yng Nghartref Gofal Brwynog, Amlwch yn 101 mlwydd oed. Gweddw annwyl y diweddar Brynmor, mam garedig Annwen, Ieuan a Nia, mam yng nghyfraith Griffith a Steve, nain hoffus Sara, Dafydd, Gareth, Alis, Siwan, Cara a'r diweddar Seimon, hen nain Guto, Nest, Erin, Suzanne, Emily, Sarah a Marius, a chwaer y diweddar Herbert. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor fore Sadwrn, 6 Tachwedd am 11.30. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar at Cymorth Cristnogol a Marie Curie yng Nghymru, drwy law R & A Hughes a'i Fab, Capel Penuel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn: 01248 723 497.
Notify me with new activity on this notice