RebeccaJONES (Ray)Ray Yn sydyn, ond yn dawel yng Nghartref Nyrsio Cerrig yr Afon, Y Felinheli, ac o 4 Ffordd Marchlyn, Caernarfon, yn 93 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Ivor, a mam addfwyn Magwen a'i phriod, Brian; nain arbennig Emma a Lisa, a hên-nain Cara, James, Erin, Scott a Louis bach. Angladd brynhawn Iau, 9 Rhagfyr, 2021. Gwasanaeth preifat ar yr aelwyd, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon am oddeutu 2.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Age Cymru. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Notify me with new activity on this notice