Julie AnnOWENOWEN - JULIE ANN, 21ain o Hydref 2021. O Isgraig, Llangefni, hunodd yn sydyn yng nghwmni ei phlant yn Ysbyty Gwynedd, yn 62 mlwydd oed. Merch annwyl y diweddar Gilbert ag Annie Owen. Mam gariadus Lisa, Arwyn a'r diweddar Barry. Nain balch Cari a Tomos. Chwaer annwyl Neville, Geraint, Ruth, Nancy a'r diweddar John. Mi fydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Isgraig, Lon Newydd, Llangefni, Dydd Mercher Tachwedd y 3ydd 2021 am 11 o'r gloch ac yna rhoddir i orffwys ym mynwent Llangefni. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Julie tuag at Mind (sieciau yn daladwy i 'R & A Hughes a'i Fab Cyfrif Rhoddion' neu gallwch wneud ar ein gwefan www.rahugheandson.co.uk). Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr R & A Hughes a'i Fab, Capel Penuel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn: 01248 723 497.
Notify me with new activity on this notice
Enter your email address to recieve a notification for any new activity on this notice.
Register today to set up custom notification and save notice's that are important to you.
Just notify me
Register too
Are you sure you want to turn off notifications on this notice?