JeanPARRYPARRY - JEAN, Tachwedd 18fed 2020. Sydyn ond yn dawel yng Nghanolfan Walton, Lerpwl yng nghwmni ei theulu o 15 Maes Maethlu, Llanfaethlu yn 72 mlwydd oed. Priod ffyddlon Richard, mam arbennig Paul, Mark a'r ddiweddar Julie, mam yng nghyfraith werthfawr Lisa, nain hoffus a charedig Llion, Jack a Sion, chwaer annwyl i Frances, Nancy ac Arthur, chwaer yng nghyfraith Carys, Barbara, Elis, Glenys, Arfon, Heather a Môn, ffrind gorau Gwen, anti orau i'w nithoedd a naiaint oll. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindau oll. Angladd ddydd Gwener, Tachwedd 27ain, gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig yng Nghapel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni am 1.00 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Gymuned Bodffordd. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at "British Lung Foundation" drwy law Melvin Rowlands Trefnwyr Angladdau Cyf., Minafon, Stryd yr Eglwys, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7DU. Ffôn: 01248 723111.
Notify me with new activity on this notice