Canon HaydnROWLANDSROWLANDS - Canon Haydn, 1936-2021. Yn annisgwyl ond yn dawel ar ddydd Mercher, 20fed Ionawr 2021 yn Ysbyty Glangwili, ar ôl cystudd byr, hunodd Canon Haydn Rowlands, 4 Ger y Llan, Caerfyrddin yn 84 mlwydd oed. Priod y diweddar Margaret, Tad cariadus Aled, Dylan a Nia,ffrind annwyl i'w partneriaid, a thaid annwyl Shannon, Bethany, Siân, Hana, Osian, Cailtin, Megan a Gruffydd. Angladd breifat, yn unol â'r amgylchiadau, yn Mynwent Llandysul ar ddydd Sadwrn, 30ain Ionawr 2021 am 1.30 yn y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir, tuag at Eglwys Llandrygarn, Ynys Môn, drwy law WD Thomas a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Llandysul. Ffôn: 01559 363537/ 363635.
Notify me with new activity on this notice