EstherROWLANDS30ain Mehefin 2024, yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd Bangor yn 83 mlwydd oed ac o Gwynfryn, Morfa Nefyn. Yn un o blant Cae'r Eglwys, Pengroeslon. Priod hoff y diweddar Humphrey Wyn Rowlands, mam annwyl a chariadus Lona a Delyth, mam yng nghyfraith hoffus a ffeind Ian a'r diweddar Mick, nain gariadus a hwyliog Emma a'i phriod Ed, Sion a Lois, chwaer a modryb hoffus a ffrind triw i lawer. Bydd y golled yn enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig yn y cartref fore Iau, 11eg Gorffennaf gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Morfa Nefyn am oddeutu 11.00 o'r gloch. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ward Uned Ddibyniaeth Uchel (HDU) Ysbyty Gwynedd trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Esther