AnnSHILVOCK13eg Gorffennaf 2024, yn dawel yng Nghartref Plas Hafan, Nefyn ac o Tŷ Capel, Sardis yn 84 mlwydd oed. Un o blant Lodge Uchaf Trallwyn. Gwraig ffyddlon y diweddar Henry Shilvock, mam gariadus Tom, David a Paul, mam yng nghyfraith hoffus Carys, Dorothy a Marian, nain garedig William,Catrin, Heather, Neil,Keith, Huw, Siian, Fflur a Harri, hen-nain annwyl, chwaer a modryb hoffus. Gwasanaeth angladd cyhoeddus yng Nghapel Pencaenewydd dydd Llun, 29ain Gorffennaf am 1.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Pentreuchaf. Blodau teulu yn unig,ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Tŷ Clyd Plas Hafan, Nefyn a Chyfeillion Bryn Beryl trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates