Evan ErnestEVANSIfan / Ianto Yn dawel ond yn annisgwyl yn ei gartref yn Nhregaron, ar y 25ain o Ragfyr 2020, yn 92 mlwydd oed, cyn brifathro Ysgol Gynradd Sapperton, Sir Gaerloyw 1972-1982, ac yn ddiweddarach ymchwilydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Priod ffyddlon y diweddar Myfanwy, a thad tyner a gofalus y diweddar Meryl, brawd annwyl Tom, Olwen a'r diweddar Morgan, brawd yng nghyfraith parchus ac ewythr hoffus. Gwasanaeth hollol breifat, o dan yr amgylchiadau presennol, yn Amlosgfa Aberystwyth, ddydd Mawrth Ionawr 12fed am 1 o'r gloch. Ymholiadau pellach i Tom Eurfyl Jones, Trefnwr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffon: (01974) 298500
Notify me with new activity on this notice