William CarolHUGHES(cyn Swyddog Addysg Ynys Môn a Gwynedd, a phrifathro cyntaf Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn) Mawrth 26, 2016, ar ôl cystudd blin a brwydr ddewr, yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o'r Groeslon, Caernarfon, yn 80 mlwydd oed. Priod ffyddlon Mary, a thad tyner a chariadus Gwion a Mared; tad-yng-nghyfraith hoff Megan, brawd hoffus Helen, a thaid balch a llawn gofal Cian, Gruff, Mali a Tomi. Bydd yn golled fawr i'w deulu, i'w gymdogion a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Sadwrn Ebrill 2, 2016. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Brynrodyn, Y Groeslon am 2 o'r gloch, gan ddilyn yn hollol breifat i'r teulu ar lan y bedd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a'r Nyrsus Cymunedol. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Peny-groes, LL54 6PL. Ffon. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice