DorothyHUGHESYn ddedwydd, fore Iau, Rhagfyr 17, yn Ysbyty Treforys, Dorothy o Heol Tynybonau, Pontarddulais, Abertawe. Priod hoff y diweddar Barchedig Idris Hughes, mam gariadus Bethan Mair a Sioned, mam-yng-nghyfraith driw Richard, a Gyngyn arbennig Cai a Llŷr. Chwaer annwyl Nest, Martin a'r diweddar John, a modryb i Carys. Cynhelir ei chynhebrwng ddydd Iau, Ionawr 7; bydd yr angladd yn codi o gartref Dorothy am 2:35, gan deithio drwy ganol Pontarddulais i wasanaeth preifat yn Amlosgfa Llanelli. Gellir gwylio'r angladd ar y we: dylid anfon cyfeiriad e-bost at geiriau@gmail.com cyn 6 Ionawr i gael côd mynediad. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion i'w rhannu rhwng Urdd Gobaith Cymru a Sefydliad y Galon, drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Capel y Bont, Stryd Oakfield, Pontarddulais, SA4 8LN.
Notify me with new activity on this notice