AngelaHUGHESHUGHES - ANGELA, Ebrill 1, 2021. Yn sydyn ond yn dawel ar ôl gwaeledd byr, yn ei chartref 26 Cae'r Saint, Caernarfon, yn 64 mlwydd oed. Mam gariadus Alan, priod ffyddlon Owie, merch annwyl y diweddar George a Trudy, chwaer annwyl Colin, Gwynfor, Terry a'r diweddar Jacqueline (efaill) a Graham, llys fam hoff Bethan a Kelvin, a nain a modryb hoffus. Colled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd Dydd Gwener, Ebrill 9, 2021. Yn dilyn y cyfyngiadau presennol, Gwasanaeth yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon (lle i 30 yn unig i fewn yn yr Eglwys) am 1.30 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Llanbeblig am oddeutu 2 o'r gloch. Derbynnir blodau neu rhoddion yn ddiolchgar tuag at Cylch Meithrin Seiont a Peblig, Caernarfon. Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Notify me with new activity on this notice