EllenJONESMYFANWY. (Nel Plas Main) 14 Mehefin 2016 hunodd yn dawel yng Nghartref Rhos, Malltraeth, Bodorgan yn 95 mlwydd oed, gynt o Arianeth, Dwyran. Mam annwylaf Hefina a Gareth, nain ofalgar Arianwen, Gwyneth a'i gwr Gareth, hen nain gariadus Richard, Catrin a Dewi, Bethan ac Elin, a hen hen nain hwyliog Casi, Macsen a Samuel. Dymuna'r teulu ddiolch yn ddiffuant am y gofal a'r caredigrwydd rhagorol a roddwyd iddi gan Gareth, Ann a holl staff Cartref Rhos. Angladd dydd Mawrth, 21 Mehefin. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 1.30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Plwyf Bodedern. Blodau'r teulu'n unig, a rhoddion pe dymunir tuag at Cartref Rhos, Malltraeth a'r Ganolfan, Gors Felen trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn: (01407) 740 940.
Notify me with new activity on this notice