PeterJONESD.L. (cyn-gyfarwyddwr Celf CCC) Ar ddydd Mawrth, Medi 21 â'i deulu o'i gwmpas, bu farw Peter o Lyndhurst, Cilgerran yn dawel wedi salwch hir. Gwr a thad teyrngar, balch a chariadus, a bydd bwlch mawr ar ei ôl i'w wraig Cathryn Gwynn, a'u plant Owain, Meilyr a Heledd. Ffrind annwyl hefyd i'w fab Huw, a'i chwaer Wendy. Yn llawn brwdfrydedd am bosibiliadau creadigol ar hyd ei fywyd, roedd Peter yn gyd-weithiwr a chyfaill ysbrydoledig i lawer, a gwnaeth gyfraniad arbennig i gelfyddyd yng Nghymru ar hyd ei yrfa hir. Gwr bonheddig bob amser. Angladd gyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ar ddydd Sadwrn, Medi 25 am 10.45yb. Dim angen dillad galar, dim blodau chwaith, ond rhoddion os dymunir i Gymdeithas Parkinsons, trwy law Mr Colin Phillips, Trefnydd Angladdau, 4 Stryd Morgan, Aberteifi, gyda diolch.
Notify me with new activity on this notice