Pyrs GoronwyJONESJONES - PYRS GORONWY, 19 Rhagfyr, 2018. Yn dawel yng Nghartref Plas Gwyn, Pentrefelin, gynt o 20 Hen Lôn, Pen-y-groes, yn 96 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Mag, a thad cariadus Rita, Stella a'r diweddar Linda. Tad-yng-nghyfraith annwyl Alwyn a Pete, taid balch Sharon, Alan, Geraint, Dylan a Gareth, hen-daid gofalus Annie Pyrs, Elise Lily, ac Evan Gwyn, a brawd-yng-nghyfraith hoff Catherine. Angladd brynhawn Gwener, 28 Rhagfyr, 2018. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Pen-y-groes am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah am 2.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Gymdeithas Strôc Môn ac Arfon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice