Benjamin Gwyn JamesJONESYn dawel yng Nghartref Gofal Peniel House, Peniel, ddydd Mawrth, Ionawr 12fed, 2021, hunodd Gwyn, Alltycordde, Glynarthen, Llandysul (Parcyrhos, Tanygroes gynt), priod annwyl y ddiweddar Beryl, tad gofalus Richard a Caradog a brawd hoff Nancy, Jean, Eirian a'r ddiweddar Mair. Angladd hollol breifat. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Tanygroes. Torch deuluol yn unig, derbynnir rhoddion, os dymunir tuag at Gartref Gofal Peniel House trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. Ffôn 01239 654240.
Notify me with new activity on this notice