DewiLLEWELYNMai 8fed, 2021 Yn frawychus o sydyn yn ei gartref 3 Bodlondeb, Ffordd Porthaethwy, Bangor yn 62 mlwydd oed. Priod annwyl Carol, tad gofalus ac amhrisiadwy Guto a'i wraig Alex, Non a'i gŵr Gethin, Gethin a'i gymar Caryl a Gwenno a'i chymar Gareth. Taid (Dew) hwyliog i'w wyrion Morgan, Ani, Cadi Harri a Nanw fach. Hefyd mab gofalus Ella Jones Llanbedrog a mab yng nghyfraith addfwyn i Hefina Thomas, Llandeilo. Brawd hŷn i Dylan a'i briod Nia, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoffus. Mi fydd yn gadael bwlch anferth ar ei ôl a cholled i'w deulu, cyd-weithwyr a ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat i'r teulu agos yn unig yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener, Mai 21, am 1.30 y prynhawn. Dim blodau, ond rhoddion os dymunir i Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau pellach i (Meinir) Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen Caernarfon LL55 3BY. Ffôn 01286 871833.
Notify me with new activity on this notice
Enter your email address to recieve a notification for any new activity on this notice.
Register today to set up custom notification and save notice's that are important to you.
Just notify me
Register too
Are you sure you want to turn off notifications on this notice?