David CliffordOWENYn dawel ddydd Mawrth, Ebrill 26ain 2022, yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli, Cliff o Saron,(Tycroes yn wreiddiol). Gŵr annwyl Lynda, tad cariadus Kevin ac Emyr, tad yng nghyfraith ffyddlon i Kathryn a'r ddiweddar Liz, tadcu hoffus Jamie, Cory, Elin, Harri a Joseff. Gwelir ei golled yn fawr gan ei deulu oll. Angladd ddydd Iau, Mai 19eg. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli am 2.00 y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir cyfraniadau os dymunir tuag at Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman, (01269) 593637.
Notify me with new activity on this notice