John Byron ((J.B.))THOMAS(J.B.) Yn dawel yn Ysbyty Glangwili ar Nos Fawrth 20fed o Orffennaf 2021 John Byron, Maesllan, Llanbedr Pont Steffan (gynt o Yr Hafod, Llanybydder). Priod ffyddlon y diweddar Rachel-Anne. Tad ardderchog a chyfaill agos i William, Eleri a'r diweddar Lis. Tad-cu cariadus Erin a Lois, a Thad-yng-nghyfraith hoff Ffiona. Brawd gofalgar Megan a'r diweddar Joe. Brawd-yng-nghyfraith annwyl Marion, a'r diweddar Mel, Evan-John, a Mair. Ewythr a ffrind hoffus. Cyn-bennaeth adran Mathemateg Ysgol Ramadeg Llandysul ac Ysgol Dyffryn Teifi. Yn unol â'r cyfyngiadau presennol cynhelir gwasanaeth angladdol preifat yn yr Eglwys Efengylaidd, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, am 11 o'r gloch ar ddydd Mawrth 3ydd Awst 2021 Rhoddir i orffwys ym mynwent Soar, Llanbedr PS. Dim blodau ond rhoddion, os dymunir, at Ward Gwenllian, Ysbyty Glangwili, trwy law Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched 32 Stryd y Bont, Llambedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7AA (01570 422673). Peacefully, at Ysbyty Glangwili on Tuesday 20th July 2021 John Byron, Maesllan, Lampeter (previously of Yr Hafod, Llanybydder). Faithful husband of the late Rachel-Anne. A remarkable father and friend to William, Eleri and the late Lis. Loving grandfather of Erin and Lois, and beloved Father-in-law of Ffiona. Devoted brother of Megan and the late Joe. A dear Brother-in-law of Marion, and the late Mel, Evan-John, and Mair. A well liked uncle and friend. Former Head of Maths at Llandysul Grammar School and Ysgol Dyffryn Teifi. In accordance with current arrangements, a private funeral ceremony will be held at the Evangelical Church, College Street, Lampeter at 11 a.m. on Tuesday August 3rd 2021. Byron will be laid to rest at Soar cemetery, Lampeter. No flowers, but donations to Gwenllian Ward at Ysbyty Glangwili, via undertakers Gwilym C. Price Son & Daughters 32 Bridge Street, Lampeter, Ceredigion, SA48 7AA (01570 422673).
Notify me with new activity on this notice