Lilian EllisWILLIAMSWILLIAMS - LILIAN ELLIS, 28 Hydref, 2019. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, ac o Tegwel, Ffordd Clynnog, Pen-y-groes, yn 76 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Evan, a mam arbennig Raymond, Lorraine a Dafydd; mam-yng-nghyfraith hoff, a nain falch Ifan, Becks, Emma, Josh, Arwen a Dylan. Hen-nain annwyl Aled Wyn, a chwaer dyner Edwin, Maggie ac Ian. Angladd brynhawn Gwener, 8 Tachwedd, 2019. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Ward Glyder, Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice