Robert David (Joe Bach)WILLIAMSWilliams, Robert David (Joe Bach) – Tachwedd 15 2020, yn frawychus o sydyn yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd yn 76 mlwydd oed. O 1, Berllan, Porthmadog. Gwr cariadus Joan, tad hwyliog a charedig Mark, Denise ac Ian: tad yng nghyfraith Gill, John a Sarah; taid balch Martin, Kieron, Abby, Kira, Emily a Meghan; brawd annwyl i’w holl frodyr a chwiorydd a’i ddiweddar frodyr a chwiorydd. Bydd yn golled fawr i’w deulu a’i ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat oherwydd y cyfyngiadau yng Nghapel y Porth, Porthmadog ar ddydd Mercher Tachwedd 25ain 2020 ac yna i ddilyn (yn breifat) ym mynwent Treflys. Bydd yr hers yn gadael 1, Berllan am 11.10yb ac yn gyrru drwy Bank Place a Snowdon Street tuag at y capel. Byddai’n gysur mawr i’r teulu os daw cymdogion a ffrindiau Joe allan i dalu teyrnged iddo gan gadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol. Blodau’r teulu yn unig. Derbynir rhoddion er cof am Joe tuag at ‘Parkinsons UK’ trwy law yr ymgymerwyr Pritchard & Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd. LL49 9RH - 01766 512091
Notify me with new activity on this notice
Enter your email address to recieve a notification for any new activity on this notice.
Register today to set up custom notification and save notice's that are important to you.
Just notify me
Register too
Are you sure you want to turn off notifications on this notice?