William GlynWILLIAMSYn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd ar y 30ain o Dachwedd 2024 yn 62 mlwydd oed, o Carreg y Garth Isaf, Rhiwlas ac yn wreiddiol o Croesor. Gwr ymroddedig a chariadus i Caron. Tad hwyliog a gofalgar i Natalie a Martin, Laura, Dawn a Mathew a Gethin a Leila, Taid balch a pryfoclyd i Leon, Theo, Chloe, Bobbie, Cail a Chrissie. Mab arbennig a gofalus i Gwenda a'r diweddar Edgar Parry Williams. Brawd cefnogol i Idris, Morfudd, Carys, Sara a Tomos. A ffrind ffyddlon i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ar ddydd Sadwrn, 21ain o Rhagfyr 2024 am 10-30yb. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Wil tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd drwy law'r ymgymerwyr.
Heol Dulyn, Tremadog,
Gwynedd LL49 9RH
01766512091
post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for William