Margaret NerysBURGESS -3 Tachwedd, 2020. Bu farw yn ei chartref Cefn Graianog, Llanllyfni, yng nghwmni ei theulu gofalgar, yn dilyn brwydr hir a dewr i salwch creulon, yn 73 mlwydd oed. Merch y diweddar Hugh a Myfanwy Jones, gwraig annwyl a ffrind gydol oes i Graham, a mam annwyl, llysfam a mam-yng-nghyfraith i Tina, Nigel, Lucy, Chris, Dave a Vicky a'u priod. Nain falch i'w hwyrion a'i gor-wyrion, chwaer i Gwyneth, Alwena, Iorweth a'r diweddar Ronald, Elwyn, David, Myfi a Kenneth, a modryb annwyl i'w holl neiaint a nithoedd. Bydd colled fawr i bawb a'u hadnabu. Angladd preifat i'r teulu yn Amlosgfa Bangor. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Nerys trwy Go Fund Me, tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280. 3 November, 2020. Passed away at her home Cefn Graianog, Llanllyfni, in the presence of her caring family, after a long battle bravely borne to a cruel illness, aged 73 years. Daughter of the late Hugh and Myfanwy Jones, much loved wife and lifelong friend to Graham, and beloved mother, stepmother and mother-in-law to Tina, Nigel, Lucy, Chris, Dave and Vicky and their spouses. Proud Nanni to her treasured grandchildren and great-grandchildren, sister to Gwyneth, Alwena, Iorweth and the late Ronald, Elwyn, David, Myfi and Kenneth, and a dear aunt to all her nephews and nieces. She will be sadly missed by all who knew her. Private funeral for the family at Bangor Crematorium. Family flowers only, but donations will be gratefully accepted in memory of Nerys by way of Go Fund Me, to be forwarded on to Alaw Ward Ysbyty Gwynedd. Enquiries to Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice