MeirionDYERGyda thristwch, cyhoeddwn farwolaeth sydyn Mei Caerhyn, Llangadog ar ôl salwch byr ac annisgwyl ar y 15fed o Awst 2022. Priod ffyddlon a chariadus Gill. Tad a thad yng nghyfraith annwyl a dibynadwy Carys, Teleri, Siriol, Gareth, Joe a Michael. Tadcu direidus a ffrind arbennig i Cadi Wyn, Hedd, Alys Wyn, Griff ac Ilan. Brawd gorau erioed Meryl. Mab yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith ac wncwl hoffus. Arwr y teulu i gyd ac yn ffrind i bawb. Gwasanaeth gyhoeddus yng Nghapel Providence, Llangadog dydd Sadwrn 27ain o Awst am 2 o'r gloch, ac i ddilyn ym mynwent lawnt Llangadog i'r teulu yn unig. Dymuniad Mei oedd i bawb i wisgo lliwiau Cymru - Coch, Gwyn neu Wyrdd. Derbynnir rhoddion os dymunir tuag at 'Meddygfa Llanfair, Llanymddyfri' neu 'Prince Phillip Ward 1' trwy law D. Lloyd a'i Feibion, Glanrwyth, Pumsaint, SA19 8YU, 01558650209.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Meirion