Blodwen MairEDWARDSEDWARDS - BLODWEN MAIR , 28 Rhagfyr 2020 . Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng nghartref ei merch a'i mab yng nghyfraith Tyngongol, 17 Stad Bro Ednyfed, Llangefni yn 97 mlwydd oed (gynt o Wilpol, Llannerch-y-medd). Priod annwyl y diweddar William Edwards, mam dyner Meirion ac Eluned, Gwilym a Jill, Mair a Richard, Gwenda a Llew, nain a hen nain arbennig a chwaer hoffus. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll. Angladd dydd Mawrth, 5 Ionawr. Gwasnaeth preifat yn unol a chyfyngiadau Covid-19 yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 1.00 o'r gloch, ac yn dilyn ym Mynwent Plwyf Llannerch-y-medd am oddeutu 2.15 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Cymdeithas Alzheimer's trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Blodwen