AledEVANSEVANS - ALED, 30 Gorffennaf, 2020. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Dolwen, Ffordd Y Sir, Penygroes, yn 74 mlwydd oed. Gŵr annwyl Margaret, tad balch Dewi a Manon, Arwyn ac Elin, Robin a Kelly, a thaid arbennig iawn i Guto, Elan, Osian, Gruff, Mared, Owain a Lois. Ar ddydd Gwener y 7fed o Awst, bydd yn ffarwelio â'i gartref ym Mhenygroes am y tro olaf. O dan yr amgylchiadau bydd y gwasanaeth yn breifat yn Amlosgfa Bangor am 1.30 y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Parkinsons UK Cymru trwy law yr Ymgymerwyr Roberts & Owen, Birmingham House, Penygroes LL54 6PL 01286 881 280.
Notify me with new activity on this notice