Elizabeth EllenEVANS (Liz Cefnen)EVANS - ELIZABETH ELLEN (Liz Cefnen), . Gorffennaf 3ydd, 2021, yn dawel yn Ysbyty Alltwen, Tremadog yn 82 mlwydd oed, o 22 Cae Hendy, Llanbedrog. Annwyl briod Robin, mam arbennig Geraint, Gwenda a'i phriod Chris, nain falch Nathan, Kyle, Kirin, Sean, Joe a Finn, hen nain Alaw, hoff chwaer y diweddar Trevor, John a Margaret, colled i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat yng Nghapel Gorffwys, Yr Ala, Pwllheli ddydd Gwener, Gorffennaf 9fed, 2021 am 11 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Newydd y Bwlch, Llanengan oddeutu 12 o'r gloch. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Liz tuag at Gronfa Cyfeillion Ysbyty Alltwen trwy law G D Roberts a'i Fab Cyf, Capel Gorffwys, Yr Ala, 01758 701107.
Notify me with new activity on this notice