Sarah ElizabethGRIFFITHGRIFFITH - SARAH ELIZABETH, 24ain Chwefror 2021. Yn dawel yn ei chartref gyda'i theulu yn 28 Ffordd Tanrhiw, Tregarth, yn 76 mlwydd oed. Priod annwyl a thyner Tecwyn (Garej Carneddi) a Mam gariadus a charedig Garry, Rhian, John a Dylan. Mam-yng-nghyfraith ffeind a hoffus Nia, Kevin a Sioned. Nain hynod o falch a thyner Sam, Dafydd, Aled, Iwan, Manon, Owen, Osian ac Efa. Chwaer annwyl Terence a'r diweddar Anna, a modryb garedig i'w nithoedd a'i neiaint. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Bydd taith olaf Sarah yn cychwyn o'i chartref am 12.50y.h. Dydd Mawrth, y 9fed o Fawrth 2021 a bydd yn mynd ar hyd Ffordd Tanrhiw a thuag at Felin Hen. Byddai'n gysur i'r teulu pe dymunai ei chyfeillion a'i chymdogion ddod allan i dalu'r deyrnged olaf iddi, gan gadw at y canllawiau pellter cymdeithasol. Gwasanaeth Angladd yn Eglwys Sant Cedol, Pentir am 1.30y.h., ac yna rhoddir i orffwys ym mynwent Pentir. Gwasanaeth preifat trwy wahoddiad yn unig i'r Eglwys oherwydd cyfyngiadau Covid. Bydd croeso i bawb dalu teyrnged tu allan i'r Eglwys, neu yn y fynwent, ond gofynnir i chi gadw pellter cymdeithasol addas. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Sarah, tuag at Feddygfa Bethesda, Nyrsus Cymunedol, Tîm Gofal Lliniarol a Marie Curie, trwy law yr ymgymerwyr J.P. Turner a'i Ferched, Cyfarwyddwyr Angladdau, Bryn Hyfryd, Pentir, Bangor, LL57 4UU. Ffôn 01248 352017
Notify me with new activity on this notice