William HughGRIFFITHSGRIFFITHS - WILLIAM HUGH, Hydref 16eg 2020. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Gatehouse, Capel Coch, yn 74 mlwydd oed. Priod annwyl Annie. Mab cariadus y diweddar Kitty ac Edward Griffiths, Tros yr Afon, Malltraeth. Tad balch Teleri ac Arwel a thad yng nghyfraith Chris a Gwenno. Taid cariadus Megan a Citi Nel. Brawd Haulwen, Mari a'r diweddar Frank, Now a Hywel. Brawd yng nghyfraith Derek ac Ellen a'i gŵr Arwyn. Ewythr gofalgar i lawer. Gwasanaeth a claddedigaeth breifat i'r teulu yn unig ym mynwent Eglwys Sant Cristiolus, Llangristiolus, Dydd Gwener Hydref 23ain 2020 am 1.30 y prynhawn. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion os dymunir er cof am Wil tuag at Ward Alaw drwy law Awyr Lâs. Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr R & A Hughes & Son, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Tel: 01248 723 497.
Notify me with new activity on this notice
Enter your email address to recieve a notification for any new activity on this notice.
Register today to set up custom notification and save notice's that are important to you.
Just notify me
Register too
Are you sure you want to turn off notifications on this notice?