GwilymGRIFFITHSGRIFFITHS - GWILYM, 24ain Tachwedd 2021. Yn frawychus o sydyn, o Tyddyn Belyn, Penllech, Tudweiliog yn 80 mlwydd oed. Gŵr cariadus Ann; tad addfwyn Marian, Alwyn, Sian a'r diweddar Arwel, Taid direidus Elin, Guto, Anest, Llŷr, Gwenllian a Lois. Tad yng nghyfraith cyfeillgar Alun, Nerys a Jonathan, brawd yng nghyfraith annwyl Margaret a Heddwel a ffrind triw i lawer. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddiolch am ei fywyd yng nghapel M.C Tudweiliog, ddydd Mawrth, Rhagfyr 7fed am hanner dydd ac i ddilyn yn gyhoeddus ym mynwent Pentreuchaf. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar, pe dymunir, tuag at Uned Gofal dydd Dementia, Hafod Hedd, Bryn Beryl trwy law'r Ymgymerwr Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn 01758 750238
Notify me with new activity on this notice