Robert JohnGRIFFITHS (Bobi Tarw / Bobi Youth Club)Bobi Tarw / Bobi Youth Club Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Delfryn, 5 Y Grugan, Groeslon, yn 79 mlwydd oed. Priod annwyl a gofalus y diweddar Eurwen, a thad cariadus a balch Gwyn ac Ann; tad-yng-nghyfraith hoff Simon a Gerry, taid arbennig Gareth a Natalie, Geraint a Manon, Elen, Dylan a Catrin, Ffion ac Iwan, ac yn frawd gofalus. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Llun, 6 Rhagfyr, 2021. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Pen-y-groes am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Bobi tuag at Diabetes UK a'r Meningitis Trust. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice