John ThomasHARRYYn dawel ddydd Llun 5ed o Fedi 2022 yn Ysbyty Treforus, John o Bontarddulais. Ffrind triw a ffyddlon i'w deulu, ei ffrindiau oll a'i gymuned. Gwelir ei golled yn fawr. Angladd ddydd Iau, Medi 29ain. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Llanelli am 12.00 canol dydd. Oedfa goffa gyhoeddus yng Nghapel Hope-Siloh, Pontarddulais am 1.00y.p. Blodau'r teulu yn unig. Ymholiadau pellach i Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau Capel y Bont, Oakfield Street, Pontarddulais. SA4 8LN. Tel: (01792) 885626.
Keep me informed of updates