Glenys DaviesJAMES(Pantglas gynt) Yn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Mercher, Chwefror 12fed, 2020 hunodd Glenys, Y Faenor, Lôn y Ladi, Blaenporth, chwaer annwyl a chefnogol Hywel a merch hoffus a gofalus y diweddar Daniel a Rachel Ellen, Pantglas, Blaenporth. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Beulah ddydd Iau, Chwefror 20fed am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at Ymchwil Canser Cymru trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. (01239 654240).
Keep me informed of updates