NelJONESJONES - NEL Yn dawel ar fore Gwener, Gorffennaf 14eg, 2017 yn Ysbyty Gwynedd, hunodd Nel, Menai Fron, Campbell Road, Caernarfon, gynt o Coedyglyn, Llambed, yn 88 mlwydd oed. Priod ffyddlon Caradog, mam hoffus Lyn a'i gymar Iona, Menna a'i chymar Idris, a mamgu annwyl Mabon a Caradog. Angladd ar ddydd Iau, Gorffennaf yr 20fed, gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bangor am 2.15 y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof os dymunir i gapel Brynhafod, Gorsgoch trwy law Roberts & Owen, Cyfarwyddwyr Angladdau, 15 Stryd Bangor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1AT.
Keep me informed of updates