Annie MaryJONESNAN Yn dawel yng Nghartref Gofal Bryn Meddyg, Llanaelhaearn ar Fai 14eg 2020, yn 94 mlwydd oed. Yn wreiddiol o Rhydyfelin, ger Aberystwyth ac yn ddiweddar o Heol Newydd, Porthmadog. Gweddw ffyddlon y Parchedig T. R. Jones, cyn weinidog Llanarmon yn Iâl, Chwilog a Bowydd, Blaenau Ffestiniog. Mam amhrisiadwy Meryl a'r ddiweddar Evan, Eleri a John, Bethan a Griff. Nain hoff Lowri a Garmon, Gareth a Medi, Gwenan ag Arwel, Rhys a Sian, Rhian, Carys a Llion, Catrin a Ben, Non a Sion. Nain Port arbennig i Iolo a Branwen, Ynyr, Gwern a Gwenlli, Cadan, Madog a Mei. Chwaer Menna a Rowland, a modryb hoff. Un o weithwyr cynnar yr Urdd yn y Swyddfa yn Aberystwyth, a bu'r Urdd yn agos at ei chalon ar hyd y blynyddoedd. Angladd breifat, oherwydd yr amgylchiadau presennol, ar lan y bedd ym Mynwent Chwilog Dydd Gwener Mai 22ain. Derbynnir rhoddion er cof tuag at Gymorth Cristnogol drwy law'r ymgymerwr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog, LL49 9RH - 01766 512091
Notify me with new activity on this notice