ValmaiJONESJONES - VALMAI, Medi 1af 2021. Yn dawel dan ofal arbennig Cartref Plas Garnedd, Pentraeth, o Penmaen , Lôn Dryll, Llanfairpwll (gynt o Dôl Werdd, Llangefni) yn 91 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon y diweddar Vernon, mam gariadus Eleri ac Eirian a'i gŵr Elwyn, nain annwyl Meinir, Geraint ac Iwan, a hen nain falch i Gwen, Mia, Martha, Jac a Bowen. Colled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 9.30 fore Sadwrn 11eg Medi. Dim blodau ond fe dderbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Valmai tuag at Samariaid Bangor (sieciau yn daladwy i 'R & A Hughes a'i Fab Cyfrif Rhoddion'). Ymholiadau a rhoddion drwy law yr Ymgymerwr R & A Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn: 01248 723 497.
Notify me with new activity on this notice