Ian VaughanJONES (Ian Joinar)Ian Joinar Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn dilyn brwydr ddewr yn Hosbis Dewi Sant, Caergybi, ac o 14 Stryd Marcws, Caernarfon, yn 64 mlwydd oed. Gŵr a thad annwyl Menna, Sara a Jason, Arwel ac Anest, ac Iwan a Hannah. Taid balch Siwan, Ania, Cai a Mia, a brawd Gwynn, Ann a'r ddiweddar John Noel. Angladd fore Llun, 13 Rhagfyr, 2021. Gwasnaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Caernarfon am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Pisgah, Carmel. Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond pe dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Hosbis Dewi Sant. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon, LL55 1AT. 01286 678658.
Notify me with new activity on this notice