GeralltLLEWELYNYn dawel yng nghwmni ei briod tra'n gafael yn ei llaw, yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, ac o Gwyndre, Carmel, yn 73 mlwydd oed. Gŵr amhrisiadwy Nerys, a thad annwyl Bethan a Siân; tad-yng-nghyfraith hoff Gari a Kenyon, taid cariadus a gofalgar Daniel a'i gymar Mari, Non, Alis, Lili, Nel a Caio, a hen-daid balch Megan. Angladd fore Llun, 18 Hydref, 2021. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch. (Gellir gweld darllediad byw o'r gwasanaeth trwy ymweld â https://watch.obitus.com, defnyddair - peta8393, cyfrinair - 874058). Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Gerallt tuag at Ward Alaw a Hafan Menai. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice