OlwenOWENOWEN - OLWEN, Awst 6ed 2020. Yn dawel yn ei chartref Einion Cottage, Llannerch-y-medd yn 88 mlwydd oed. Gwraig annwyl y diweddar Glyn Owen, mam a ffrind arbennig i Gwenda, Tegwen, Dilwyn a Dwynwen, mam yng nghyfraith i Eric, Richard, Bethan a Jeremy, nain balch Sean, Gemma, Llio, Debbie, Non, Haf, Gwion, Alison, Beth, Gethin, Elen, Lowri a Mai a hen nain hoffus a gofalus i naw bychan. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Angladd hollol breifat oherwydd yr amgylchiadau presennol ddydd Gwener Awst 14eg. Ymholiadau pellach drwy law Melvin Rowlands Trefnwyr Angladdau Cyf., Minafon, Stryd yr Eglwys, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7DU. Ffôn: 01248 723111.
Notify me with new activity on this notice