WendaPOLLARDPOLLARD - WENDA, Mai 8fed, 2021. Yn dawel yn ei chartref, 22 Maes Castell, Llanllyfni, yn 81 mlwydd oed. Mam a mam-yng-nghyfraith gariadus ac ymroddgar i John ac Eleri, Sharon a Barry, Michael a Shan a Jacqueline. Chwaer dyner y diweddar Carol. Yn gannwyll llygaid nain oedd ei wyrion a wyresau: Steven, Siobhan, Tamany, Ioan, Brendan, Erin, Sion, Lisa, Nia a'u partneriaid. Hen-nain falch i Shannon, Erin, Steffan, Gwenllian a Noa. Yn fodryb ac yn ffrind annwyl. Gwasanaeth yng Nghapel Soar Penygroes, brynhawn Sadwrn, Mai 22 am 1.00 o'r gloch. Oherwydd rheolau Covid19, y teulu yn unig fydd yn mynychu y tu mewn i'r capel ond mae croeso i eraill ymuno y tu allan. Yn dilyn hyn fe'i rhoddir i orffwys ym Mynwent Gorffwysfa. Byddai'n gysur i'r teulu pe dymunai cyfeillion a chymdogion Wenda ddod i ffarwelio gan ddilyn y canllawiau a chynfyngiadau pellter presenol. Blodau'r teulu yn unig ond derbynir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Wenda tuag at elusen :- Cymdeithas Cleifion Arennau Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice