Gwilym JamesPOWELLYn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu, ar Fehefin 22, Gwilym James Powell, 1 Cylch Iago, Llanon, gwr cariadus Mair Gwenallt, tad tyner Elin Gwenallt, 'Chwg' gofalus Meical a Rhian, hen dadcu hoffus Cameron, Jac a Callum, a brawd ffyddlon Dai. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llansantffraed, Llanon, ddydd Sadwrn Mehefin 26 am 11 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, cyfraniadau os dymunir tuag at Bowel Cancer, Ward Meurig, Ysbyty Bronglais trwy law C Trefor Evans, Trefnwr Angladdau, Brongenau, Llandre, Aberystwyth. SY24 5BS.
Notify me with new activity on this notice