Bob Diserth - Robert Arthur RobertsROBERTSROBERTS - BOB (DISERTH - ROBERT ARTHUR ROBERTS), 8 Awst, 2020. Gyda chalon drom yr ydym fel teulu'n cyhoeddi marwolaeth dad, Bob Roberts, yn Ysbyty Eryri, Caernarfon yn 96 mlwydd oed. Prifathro, dramodydd, adolygydd, ond yn bennaf gŵr a ffrind ffyddlon i'r diweddar Margaret Myfanwy, tad a thad-yng-nghyfraith annwyl i Robin a Hannah, Rhiannon a Dewi, Rhys ac Eirian; taid hael a chariadus i Elen, Carys ac Iwan, a brawd gofalgar i Owi, Iris, Mori, Heulwen a'r diweddar Enid a John Eurwyn. Wncwl Bob i'w holl neiaint a nithoedd ac yn gyfaill didwyll a ffyddlon i'w ffrindiau. Ymddiheuriadau fil, ond oherwydd yr amgylchiadau presennol, angladd teuluol hollol breifat ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon fore Gwener Awst 21, 2020 am 11.00 yb. Blodau'r teulu yn unig ond debynnir teyrngedau ysgrifenedig a rhoddion tuag at Fad Achub Porthdinllaen RNLI trwy law'r ymgymerwyr Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon LL55 1AT, 01286 678658. With a heavy heart we would like to announce the passing of dad, Bob Roberts, on Saturday 8th August 2020 at Eryri Hospital, Caernarfon, aged 96 years. Headmaster, playwright, drama critic but mainly a faithful husband and best friend to the late Margaret Myfanwy, dearest father and father-in-law to Robin and Hannah, Rhiannon and Dewi, Rhys and Eirian and generous and loving grandfather to Elen, Carys and Iwan, and caring brother of Owi, Iris, Mori, Heulwen and the late Enid and John Eurwyn. Wncwl Bob to all his nephews and nieces and a true and loyal friend to all. Due to the ongoing pandemic situation, a private family funeral at the graveside at Llanbeblig Cemetery, Caernarfon will be held on Friday 21st August, 2020 at 11.00 a.m. Family flowers only but written tributes and donations will be gratefully accepted in aid of Porthdinllaen RNLI per the funeral directors Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon, LL55 1AT 01286 678658.
Notify me with new activity on this notice